Rhondda Cynon Taf County Borough Council - National Lido Ticket Portal

Terms & Conditions

Rheolau Cyffredinol y Pwll Nofio

  • Mae pob pwll nofio yn y Lido yn cael ei gynnal ar 28°C bob amser.
  • Does dim modd trosglwyddo neu ad-dalu eich archeb yn Lido Ponty.
  • Ni chaniateir ad-daliad na throsglwyddiadau o ganlyniad i dywydd gwael ar y diwrnod (neu cyn hynny), ac eithrio os bydd rhaid i'r Lido gau. Gallai hyn ddigwydd os bydd mellt a tharanau, a bydd gofyn i bawb ddod allan o'r dŵr, bydd y pwll yn ailagor 30 munud ar ôl fflach olaf y mellt.
  • Efallai y bydd achubwr bywydau yn gofyn ichi newid eich lôn nofio os yw'n meddwl eich bod chi’n nofio yn y lôn anghywir i’ch cyflymder.
  • Rhaid i nofwyr fod oddi ar y safle 20 munud ar ôl i sesiwn orffen.
  • Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a ddarperir gan ein carfan o achubwyr bywydau i fwynhau eich ymweliad i'r eithaf.
  • Er mwyn cynnal ansawdd y dŵr, rydyn ni'n gofyn i chi gael cawod cyn defnyddio'r pyllau nofio.
  • Os oes argyfwng, rhaid i chi adael y pwll nofio a dilyn cyfarwyddiadau'r achubwyr bywyd.
  • Rydyn ni'n argymell bod babanod a phlant bach yn defnyddio cewynnau nofio, sydd ar gael i'w prynu yn y dderbynfa. 
  • Rhaid i bob nofiwr wisgo dillad nofio addas. Ni chaniateir dillad sy'n eich cyfyngu na dillad sydd ddim yn ffitio'n addas. Mae modd gwisgo dillad ychwanegol, a ddefnyddir at ddibenion nofio yn unig, dros ben gwisg nofio.
  • Peidiwch â nofio am o leiaf 48 awr ar ôl dioddef dolur rhydd neu chwydu.
  • Peidiwch â nofio am 14 diwrnod ar ôl i symptomau dolur rhydd ddod i ben os ydych chi wedi cael gwybod bod gyda chi cryptosporidiwm.

 Cadw eich lle

  • Gall methu â dod i'ch sesiwn dair gwaith neu fwy arwain at eich gwahardd o'r system cadw lle.

 Colled neu ddifrod i eiddo   

  • Mae’n amod mynediad i Lido Ponty na fyddwn ni'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am golled neu ddifrod i eiddo defnyddwyr ac mae’n ofynnol i bob defnyddiwr gymryd y camau priodol i ddiogelu eu heiddo.

 Ystafelloedd newid

  • Mae modd i blant sy'n iau na 8 oed newid yn yr ystafell newid gyda'r rhiant/oedolyn sydd gyda nhw, boed yn ddyn neu’n ddynes.
  • Bydd unrhyw eitemau y byddwn ni'n dod o hyd iddyn nhw, gan gynnwys eitemau sy'n cael eu gadael mewn loceri ar ddiwedd y dydd yn cael eu symud a'u cadw mewn storfa. Nid yw Lido Ponty yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled neu ddifrod i eiddo defnyddwyr ac mae'n ofynnol i bob defnyddiwr gymryd camau priodol i ddiogelu eu heiddo.
  • Mae'n ofynnol i ni gadw'r rhan fwyaf o eitemau o ddillad/offer ac ati, am hyd at bedair wythnos. Ar ôl y cyfnod yma, mae gyda ni'r hawl i gael gwared ar yr eitemau yma, fel y bo'n briodol. Am resymau hylendid, dydyn ni ddim yn cadw dillad isaf, brwsys gwallt a chribau, ac ati.

 

Rheolau'r Pwll

  • Dim pistolau dŵr
  • Dim bwyta nac yfed yn y pwll
  • Dim tynnu lluniau yn y dŵr (rhaid i bobl sy’n tynnu lluniau fod y tu allan i'r pwll)
  • Dim peli caled
  • Dim snorcelio na masgiau
  • Dim rhedeg
  • Dim deifio
  • Dim teganau gwynt mawr
  • Dim ysmygu na defnyddio e-sigaréts yn Lido Ponty
  • Dim yfed alcohol na dod ag alcohol ar y safle
  • Fydd unrhyw ymddygiad camdriniol tuag at staff neu gwsmeriaid eraill ddim yn cael ei oddef

Rhaid i gwsmeriaid gytuno i gadw at y rheolau ynglŷn â defnyddio'r pwll ar bob adeg.

Dylai rhieni a gwarcheidwaid oruchwylio eu plant ar bob adeg.

Rhaid i blant 4 oed ac yn iau fod yng nghwmni oedolyn ar bob adeg pan fyddan nhw yn y dŵr. Rhaid i un plentyn fod yng nghwmni un oedolyn, a rhaid bod y plentyn o fewn cyrraedd hyd braich yr oedolyn.

Rhaid i blant rhwng 5 a 7 oed, a phawb sydd heb sgiliau nofio, fod yng nghwmni oedolyn ar bob adeg. Dim mwy na 2 blentyn yng nghwmni oedolyn.

Gall plant 8 oed ac yn hŷn ddefnyddio'r pwll heb gwmni oedolyn, ond dylai unrhyw blentyn sydd ddim yn nofiwr hyderus gael goruchwyliaeth yn y dŵr beth bynnag ei oed.

Os nad ydych chi'n dilyn y rheolau yma, gallai arwain at eich gwahardd o'r cyfleusterau.

Dim alcohol ar safle'r Lido.

Dim mynediad i unrhyw berson sydd yn cael ei amau o fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Mae modd gwrthod mynediad ar unrhyw adeg.

Cofiwch gyrraedd dim hwyrach na 15 munud ar ôl yr amser wedi'i nodi ar y tocyn, gan y bydd tocynnau'n cael eu hailddyrannu ar ôl hynny

Sylwch, does dim modd trosglwyddo tocynnau na chael ad-daliad amdanyn nhw

Efallai bydd y Telerau a'r Amodau yn newid ar unrhyw adeg a heb rybudd.

 

Swimming Pool General Usage Rules

·         All Lido pools are maintained at 28°C at all times.

·         Lido Ponty bookings are non-transferable and non-refundable.

·         No refund or transfers will be permitted as a result of poor weather on or before the day, except if the Lido is forced to close. This might be in the event of thunder and lightning everyone will be asked to get out of the water, the pool will reopen 30 minutes after the last flash of lightning.

·         A lifeguard may ask you to move lanes if they do not feel you are in the correct lane for your speed.

·         Swimmers must be off site 20 minutes after a session has finished.

·         Please follow all instructions provided by our team of lifeguards to maximise your enjoyment of your visit.

·         To assist in maintaining water quality, showering prior to the use of the swimming pools is requested.

·         In the event of an emergency, you must clear the swimming pool and follow the instructions provided by the lifeguards.

·         We recommend babies and toddlers use swim nappies, which are available for purchase from reception. 

·         All swimmers must wear appropriate swimwear. Clothing which is restrictive or ill-fitting is not permissible. Additional garments, used solely for the purpose of swimming, may be worn over the top of a swimming costume.

·         Do not swim for at least 48 hours after suffering vomiting or diarrhoea. Please do not swim for 14 days after diarrhoea symptoms have stopped if you have been told you have cryptosporidium.

 Booking Attendance

·         Failure to turn up for your booking three times or more may result in you being barred from the booking system.

 Loss or damage to property

·         It is a condition of admission to Lido Ponty, that we shall accept no responsibility whatsoever for the loss of damage to property of users and all users are required to take appropriate steps to safeguard their property.

 Changing rooms

·         Children under the age of 8 may change in the changing room of their accompanying parent/adult, whether male or female.

·         Any articles we find, including items left in lockers at the end of the day will be removed and kept in storage. Lido Ponty accepts no responsibility for the loss or damage to property of users and all users are required to take appropriate steps to safeguard their property.

·         We are required to keep most found items of clothing/equipment etc for up to four weeks. After this time, we reserve the right to dispose of these items as we see fit. For hygiene reasons, we do not keep items of underwear, hairbrushes and combs etc.

 

Pool Rules

·         No water pistols

·         No food or drink to be consumed in the pool

·         No photos to be take in the water (Camera users must be outside the pool water)

·         No hard balls

·         No snorkel and masks

·         No running

·         No Diving

·         No Large Inflatables

·         No Smoking or Vaping in the Lido Ponty Complex

·         No alcohol to be drunk or brought into site

·         No abusive behaviour to staff or other customers will be tolerated

Customers must agree to adhere to the pool rules at all times

Parents and guardians should actively supervise their children at all times

Children under 5 years old, must be accompanied in the water by an adult at all times, on a one to one basis and be within arm’s reach of the child

Children aged 5-7 years old, and all non swimmers must be accompanied in the water by an adult at all times, on a maximum of 2 children to one adult basis

No alcohol allowed within the lido

Admission will be refused to any person appearing to be under the influence of alcohol or drugs

Entry may be refused at any time

Please arrive no later than 15minutes after the time stated on the ticket, as tickets will be reallocated after this

Please note all tickets are non-transferable and non-refundable

Terms & Conditions may be subject to change at any time without prior notice.